Cychwynnodd Cheryl Beer ei gyrfa gydol oes yn y Celfyddydau fel canwr/cyfansoddwr caneuon, yn teithio gyda Syr Bob Geldof, Lonnie Donegan a'u tebyg. Heddiw, mae'n ddyngarwr creadigol cyhoeddedig, uchel ei pharch, sy'n archwilio'r perthnasoedd rhyng-ddibynnol rhwng sain, y ddynoliaeth a lles. Fel Cyfarwyddwr a Sylfaenydd Radio Atgofion Sain, Cerdded 19 yw ei gweledigaeth mewn ymateb i'r pandemig. Eleni, derbyniodd Cheryl yr anrhydedd clodfawr o gael ei henwi'n un o 100 o Fenywod Mwyaf Arloesol Cymru am ei chyfraniad i'r Celfyddydau ac Arloesi. Mae'n fwyaf adnabyddus am greu gwaith sy'n cyfuno'i hangerdd dros sain amgylcheddol, cân a storïau bywyd, ond y tu ôl i'r llenni, mae ganddi repertoire eang yn y cyfryngau digidol creadigol hefyd. - cherylbeer.com
|
Wrth iddi ddawnsio mewn mannau llwyd ariannaidd rhwng Hwn a Hwn, mae'r ymarferwr amlgyfryngau Leona Jones yn archwilio'r pethau sydd braidd yn cael eu gweld na'u clywed, yr ymwybodol a'r llai ymwybodol, i greu digwyddiadau/perfformiadau a gosodiadau o gwmpas iaith, llais, sain a gofodoldeb. Gan ddefnyddio recordiadau maes, sain ac ymatebolrwydd i safle, ynghyd â thestun, mae'n ymroi i geisio amlygu corfforoldeb a chyd-destun. Mae cydweithredu trawsddisgyblaethol yn greiddiol i'w harfer, ac mae wedi cydweithio â cherddorion, artistiaid gweledol, dawnswyr ac artistiaid perfformio. Mae Leona yn gwneud ymdrech gydunol i estyn i mewn i ddychymyg cynulleidfa, gan ysgogi eu gallu i wrando. Mae'n credu bod gwrando'n hanfodol i unrhyw gymdeithas. - leonajones.co.uk
|
Mae Alastair Duncan yn Artist Sain ac yn Artist Tapestri Arobryn sy'n byw ym Mhontarddulais. Adlewyrchir ei hoffter mawr o dapestri yn ei ymagwedd at sain a ffotograffiaeth, lle mae'n gwrando am y gwead, y patrymau a'r lliwiau sy'n ein hamgylchgynu mewn gwahanol amgylcheddau. Fel cyd-Gyfarwyddwr ei gwmni sain amgylcheddol, Still Walks, mae wedi ennill nifer o wobrau a derbyn grantiau niferus am ei waith yn y celfyddydau ac addysg, ynghyd ag arddangos yn eang ym Mhrydain ac yn rhyngwladol. Yn Still Walks, mae ganddo flog wythnosol lle mae'n tywys y gwrandäwr ar deithiau cerdded hardd drwy gefn gwlad. - stillwalks.com
|
Mae Dwynwen Llywelyn yn ymarferwr celfyddydau cymunedol creadigol sy'n arbenigo mewn theatr, ysgrifennu a chynhyrchu prosiectau cymunedol a arweinir yn broffesiynol. Mae'n bennaeth ar Theatr Felinfach ac mae'n gyfrifol am ddatblygu strategol a chyflenwi amrywiaeth o gelfyddydau cyfranogol sy'n hybu ac yn cefnogi llesiant, hyder, llawenydd, y Gymraeg a sgiliau dwyieithog. Mae'n mwynhau ysgrifennu ac mae peth o'i gwaith wedi cael ei gyhoeddi, storïau plant ac yn fwy diweddar, trioleg o eiriau caneuon a gomisiynwyd gan Gôr Cardi-gân. Mae'n byw yn Felinfach, Ceredigion gyda'i theulu.
|
Mae Michael Kennedy yn byw yn Abertawe ac mae'n llysgennad uchel ei barch dros y gymuned gerddoriaeth leol, yn gynhyrchydd radio ac yn olygydd cylchgrawn. Mae'n un o sylfaenwyr Welsh Connections, sef platfform sy'n hyrwyddo cerddorion Cymreig ac yn creu rhwydweithiau byd-eang. Yn 2020, ffurfiodd y cylchgrawn a'r label recordiau SWND mewn partneriaeth â Stephen Morris o Madcap Global Entertainment yn Awstralia, Jeremy Gluck, dyn blaen y Barracudas gynt, a'r gwneuthurwr ffilmiau, Gareth Davies. Gyda nifer o recordiau proffil uchel yn barod, mae SWND yn datblygu'n gyflym fel y label i'w gwylio yng Nghymru. swnd.wales
|